|
 |
Canolfan Mileniwm Cymru |
 |
Y Senedd |
 |
Mae Neuadd y Ddinas, Caerdydd |
|
|

Cynhelir y digwyddiad tri diwrnod yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru
ac un o ddinasoedd bywiocaf Ewrop. Mae'r ddinas yn enghraifft
o'r newidiadau ysgubol yn y dirwedd gymdeithasol ac economaidd
dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, yn ymateb i'r her a thrawsnewid
ei hun yn gymdeithas ôl-ddiwydiannol lwyddiannus. Mae yma
bellach bensaernïaeth newydd ddramatig, glan y dwr a ailddatblygwyd
yn llwyr, ac mae'n ymhyfrydu yn ei statws newydd fel cartref Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
• iyw
cartref a gweithle saith sefydliad diwylliannol cyffrous, gan
gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn ei gwneud yn ffwrnais
o greadigrwydd ac arloesedd
• yw cartref y Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, canolbwynt democratiaeth a datganoli yng Nghymru.
Mae'n agored ac yn groesawgar, mewn safle amlwg ym mae cyffrous
Caerdydd
•
wedi sefyll yng nghanol Caerdydd am dros ganrif. Tu ôl i
bensaernïaeth goeth y Dadeni mae gan yr adeilad y cyfleusterau
cynadledda diweddaraf
Mae gan Gaerdydd lu o westai 3, 4 a 5 seren yn agos at leoliad
y gynhadledd a cheir detholiad ar y wefan lle mae ystafelloedd
yn cael eu cadw i gynadleddwyr ar gyfraddau ffafriol.
Bydd bysiau gwennol ar gael i fynd â chynadleddwyr rhwng
y gwestai a ddewisir a'r lleoliadau amrywiol a ddefnyddir drwy
gydol y gynhadledd gan gynnwys y Cinio Gala ar noson y 10fed Ionawr.
|