|
|
|
| |
Bydd arbenigwyr ar addysg o bedwar ban byd yn dod ag agwedd
wahanol i agenda'r gynhadledd - gan ganolbwyntio eleni ar
ddatblygu gwasanaethau plant, gweithredu'r agenda sgiliau
a sut y mae'r llywodraeth. |
 |
Cyfarwyddwr yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu'n Brif Weithredwr yr Adran
Addysg a Gwasanaethau Plant yn Ne Awstralia, lle cafodd enw
fel arloeswr a diwygiwr. |
|
|
 |
Cadeirydd Arweinyddiaeth Ryngwladol yn cefnogi'r rhwydwaith
Rhwydweithio Rhyngwladol dros Drawsnewid Addysgol (iNet).
Bu'n Brif Ymgynghorydd ar Safonau Ysgolion yn Yr Adran Addysg
a Sgiliau, gan weithio i dri Ysgrifennydd Addysg. |
| |
|
 |
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cyn y penodiad hwn hi oedd
Cyfarwyddwr Chwarae Teg ac aelod dros Gymru ar y Gronfa Cyfleoedd
Newydd. Mae Jane yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ers
1999 a bu'n Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ac yn Weinidog dros Fusnes. |
| |
|
 |
Dirprwy Brifathro ym Mhrifysgol Sterling. Bu John yn gweithio
ym Mhrifysgol Warwick, lle'r oedd yn Athro Dysgu Gydol Oes.
Mae wedi rhoi cyngor i nifer o gyrff y llywodraeth ym Mhrydain
a thu hwnt, ac roedd yn aelod o'r Grwp Ymgynghorol Cenedlaethol
ar Addysg Barhaus a Dysgu Gydol Oes. |
| |
|
 |
Mae'r Arglwydd Morris yn adnabyddus am yr hyn a gyflawnodd
fel un o arweinwyr undeb mwyaf blaenllaw y DU. Ac yntau
bellach wedi ymddeol o Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol,
mae'n cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau. Mae'n
Gyfarwyddwr Anweithredol i Fanc Lloegr, Cadeirydd Ymchwiliad
Morris, sef astudiaeth gyhoeddus o safonau proffesiynol
Heddlu'r Metropolitan, Canghellor Prifysgol Stafford yn
Lloegr a Phrifysgol Technoleg Jamaica. Yn ogystal, mae'n
aelod o'r Comisiwn ar gyfer Trafnidiaeth Integredig, y Tribiwnlys
Apeliadau Cyflogaeth a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr. |
| |
|
 |
Mae Fiona yn newyddiadurwraig sy'n arbenigo mewn materion
addysg a rhianta. Ar hyn o bryd, Fiona yw cadeirydd y Sefydliad
Teulu a Rhianta, mae'n is-ganghellor yr ymgyrch Comprehensive
Future ac yn llywodraethwr mewn dwy ysgol yn Llundain. Mae
hefyd yn ysgrifennu colofn reolaidd yn 'Education Guardian',
yn cyfrannu at LBC radio, "Comment is free", sef
tudalen sylwadau ar-lein The Guardian ac yn cymryd rhan yn
rheolaidd mewn dadleuon ar addysg ar y teledu ac ar y radio. |
|
|
|