|
19 o weithdai yn mynd i'r afael ag anghenion addysgol arbennig gan
gynnwys.
 |
Datblygu arweinyddiaeth gydweithredol/cynaliadwy
|
 |
Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion Cymru
|
 |
Cyfranogiad plant a phobl ifanc
|
 |
Cydweithio rhwng awdurdodau lleol |
 |
Cynllunio a rhesymoli ysgolion.
Gweld yr holl weithdai
|
 |
Steve Marshall
Cyfarwyddwr yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. |
 |
Yr Athro David Hopkins
Cadeirydd Arweinyddiaeth Ryngwladol yn cefnogi'r rhwydwaith
Rhwydweithio Rhyngwladol dros Drawsnewid Addysgol (iNet). |
 |
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. |
 |
Yr Athror John Field
Dirprwy Brifathro ym Mhrifysgol Sterling. |
 |
Yr Anrhydeddus Arglwydd Bill Morris o Handsworth
Mae'r Arglwydd Morris yn adnabyddus am yr hyn a gyflawnodd
fel un o arweinwyr undeb mwyaf blaenllaw y DU. |
 |
Fiona Millar
Mae Fiona yn newyddiadurwraig sy'n arbenigo mewn materion
addysg a rhianta. |
| |
|
| |
ENGLISH>> |
| |
|
|
|

Nid mewn ysgolion yn unig rydym yn dysgu - dysgwn o'r crud i'r bedd,
ac mae polisi addysg yn yr 21ain Ganrif yn gynyddol yn adlewyrchu
hyn. Mae adroddiad Leitch hefyd yn amlygu'r angen i ddatblygu sgiliau
ymhlith gweithlu'r DU y bydd eu hangen arnom i barhau i fod yn gystadleuol.
Mae angen i bawb ym maes addysg gydweithio er mwyn cyflawni'r rhain.
Bydd y gynhadledd hon yn rhoi cyfle i drafod yr ymagweddau gwahanol
y mae Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn eu cymryd
- gan gynnwys sut y mae pob un wedi dehongli Deddf Plant 2004,
a sut y darperir gwasanaethau i blant. Byddwn yn clywed am ymchwil
ryngwladol, ac am arferion arloesol sy'n cael eu datblygu yma
a thramor, gan gynnwys y gwaith diweddaraf ar ddiwygio ar dair
lefel. Ond yn bwysicaf oll gallwn rannu profiadau ac arfer gorau
dysgu gydol oes yn y byd hwn sy'n prysur newid.
Cynhadledd Addysg Gogledd Lloegr yw digwyddiad addysgol blynyddol
pwysicaf y flwyddyn yn y DU. Dyma'r digwyddiad mwyaf o'i fath,
ac mae'n denu cynulleidfa nodedig o uwch gynrychiolwyr o feysydd
darparu addysg a pholisi addysg. Mae'r gynhadledd sy'n bodoli
ers dros gan mlynedd bellach, yn denu siaradwyr a chynadleddwyr
sy'n adnabyddus ledled y byd. Mae'n darparu cyfle i arddangos
syniadau, rhwydweithio a rhannu arfer gorau. Mae hefyd yn denu
cryn sylw gan y wasg genedlaethol.
 |
 |
  |
 |
|
5 minute introduction
to the conference |
|
Lleoliadau'r Cynadleddaues |
Llety |
|
|