|
|

Canolfan Mileniwm Cymru
12.30 Cofrestru a chinio
2 - 2.10 Croeso i'r Gynhadledd - y Cynghorydd Derek Vaughan,
Arweinydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
2.10 – 2.20 Agoriad gan Lywydd y Gynhadledd, yr Athro David
Hopkins, Yr Athrofa Addysg, Prifysgol Llundain
2.20 - 2.50 Dysgu am Ddysgu am Oes - Yr Athro John Field, Dirprwy
Bennaeth, Prifysgol Stirling
2.50 – 3.20 Yr Anrhydeddus Arglwydd Bill Morris o Handsworth,
Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol
3.20 – 4.00 Adloniant gan blant a phobl ifanc ar y prif
lwyfan
4 – 5 Lluniaeth yn ardal yr arddangosfa - adloniant ar
lwyfan Tesco
5 – 7 Derbyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth
Cynulliad Cymru yn Adeilad y Senedd (ger Canolfan Mileniwm Cymru)
Canolfan Mileniwm Cymru
8.45 - 9.15 Cofrestru a lluniaeth
9.15 - 9.50 Gwireddu Potensial Arweinyddiaeth Gyfundrefnol -
Yr Athro David Hopkins, Yr Athrofa Addysg, Prifysgol Llundain
9.50 – 10.20 Fiona Millar, Newyddiadurwr ac Arbenigwr Addysg
a Rhianta
10.20 – 11.10 Egwyl lluniaeth
11.10 – 11.30 Jane Hutt AC Y Gweinidog dros Blant, Addysg,
Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
11.30 – 12.00 Cyflwyniad gan blant a phobl ifanc
12.00 – 2.00 Cinio yn ardal yr arddangosfa
2 – 4 Gweithdai – i'w cynnal mewn sawl lleoliad
7.30 Cinio Gala - Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Canolfan Mileniwm Cymru
9am Cofrestru a lluniaeth
9.30 - 10.00 Dysgu Heddiw i'r Dyfodol - Steve Marshall, Cyfarwyddwr,
Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth
Cynulliad Cymru
10.00 – 10.45 Sesiwn banel
10.45 – 11.15 Egwyl lluniaeth
11.15 – 11.45 Gweinidog y DU - I'w gadarnhau
11.45 – 12.15 Yr Athro David Hopkins, Llywydd y Gynhadledd,
Yr Athrofa Addysg, Prifysgol Llundain - i gloi'r gynhadledd
12.15 – 1.00 Diwedd y gynhadledd - Lluniaeth cyn gadael
1.00 – 2.00 Cyfarfod a chinio gweithredol NEEC
Mae gan Gaerdydd lu o westai 3, 4 a 5 seren yn agos at leoliad
y gynhadledd a cheir detholiad ar y wefan lle mae ystafelloedd
yn cael eu cadw i gynadleddwyr ar gyfraddau ffafriol.
Bydd bysiau gwennol ar gael i fynd â chynadleddwyr rhwng
y gwestai a ddewisir a'r lleoliadau amrywiol a ddefnyddir drwy
gydol y gynhadledd gan gynnwys y Cinio Gala ar noson y 10fed Ionawr.
|
 |

Cyflwyniad o astudiaethau achos a thrafodaeth ar waith
ymchwil cyfredol a gwaith ymchwil yn y dyfodol.
Cadeirydd: Yr Athro David Hopkins, Prifysgol Sefydliad
Addysg Llundain
Cyfranwyr:
• Yr Athro David Egan,
Ysgol Addyst Caerdydd, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd,
• Dr Chris James, Prifysgol
Caerfaddon
• Dr Chris Chapman,
Prifysgol Manceinion
Bydd y gweithdy yn cyflwyno ymchwil yn seiliedig ar astudiaethau
achos ar ysgolion cynradd ac uwchradd effeithiol yng Nghymru;
gosodwch yr astudiaethau achos hyn a'r dystiolaeth sy'n deillio
ohonynt o fewn y casgliad rhyngwladol o dystiolaeth ymchwil sydd
gennym ar addysgu effeithiol; ennyn trafodaeth ar y ffyrdd gorau
ar gyfer meithrin ymchwil ac arfer effeithiolrwydd ysgol.e workshop
.
Nôl i'r Brig

Edrych ar dystiolaeth am effaith gwasanaethau
integredig i blant yng nghamau cyntaf eu gweithredu.
Cadeirydd: John Harris Swydd Hertford
Cyfranwyr:
• Sue Rossiter, SCYA
• Celia Atherton, RiP
Yn y gweithdy hwn byddwch yn clywed am brosiect sy'n gwerthuso
effaith Gwasanaethau Plant Integredig. Mae'r prosiect yn nodedig
am ymagwedd gydweithredol y Consortiwm Ymchwil Awdurdodau Lleol,
sy'n cynnwys grwp o bedwar awdurdod lleol ar ddeg o Loegr, SCYA,
Ymchwil mewn Ymarfer, yr Asiantaeth Gwella Datblygu, y Gymdeithas
Llywodraeth Leol ac LGAR, gyda chefnogaeth gan sawl un o Swyddfeydd
y Llywodraeth. Bydd y gweithdy yn cynnwys cyflwyniad o ganfyddiadau,
cyn yr adroddiad terfynol; trafod cynlluniau i estyn y gwaith;
a gwahoddiad i gymryd rhan mewn consortiwm mwy.
Nôl i'r Brig
Cadeirydd: Robat Powell
Cyfranwyr:
• Robert Smith
Mae datblygu'r ddarpariaeth ar gyfer y grwp oedran 14-19 yn flaenoriaeth
ym mholisi addysg y DU. Mae'n rhan ganolog o strategaeth Llywodraeth
Cynulliad Cymru gan ei bod yn gweithredu'r weledigaeth a amlinellir
yn Cymru: Y Wlad sy’n Dysgu yng nghyd-destun ei hymrwymiad
i seilio addysg a pholisïau eraill yng Nghymru ar yr egwyddor
o hawliau pob person ifanc. Bydd y cyflwyniad yn ystyried y syniad
o hawl cwricwlaidd ac yn archwilio sut y mae rhai awdurdodau lleol
wedi ceisio'i datblygu o fewn Llwybrau Dysgu 14-19. Bydd yn trafod
syniadau megis deinameg gweithio mewn partneriaeth ac elfennau
allweddol cydweithio effeithiol.
Nôl i'r Brig
Gweithdy sy'n edrych ar brosiect arloesol yng
Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n targedu ac yn
cefnogi oedolion ym maes dysgu.
Cadeirydd: Carol Daniels
Sicrhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf £2.5
miliwn o arian Amcan Un Ewropeaidd dros 3 blynedd a gyfatebwyd
gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a ddefnyddiwyd i ddatblygu prosiect
i helpu i gael gwared â rhwystrau at ddysgu, hyfforddi a
gwaith i rieni mewn ardaloedd difreintiedig. Y nod terfynol yw
cynyddu gweithgarwch economaidd a thynnu plant allan o dlodi.
Yn 2005, sicrhawyd £13m yn ychwanegol o arian Cronfa Gymdeithasol
Ewrop a gweithredwyd y prosiect ym mhob un o'r 22 o awdurdodau
lleol yng Nghymru gyda thros 10,000 o unigolion yn cael eu cefnogi
gan Genesis Cymru hyd yn hyn. .
Nôl i'r Brig
Gweithdy yn edrych ar ddatblygiad fframwaith effeithiolrwydd
ysgolion yng Nghymru yn dilyn cysyniad diwygio ar dair lefel.
Cadeiryddr: Elizabeth Taylor Cyfarwyddwr, Grwp Plant ac Ysgolion,
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Cyfranwyr:
• Pennaeth a chynrychiolydd
o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
Mae ymchwil yn dynodi bod sicrhau canlyniadau gwell yn effeithiol
ar gyfer dysgwyr wedi'i gysylltu'n agos â diwygio ar dair
lefel h.y. y gymuned addysg gyfan yn cydweithio. Yng nghyd-destun
Cymru mae hyn yn golygu Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau
lleol ac ysgolion. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu rhaglen
Effeithiolrwydd Ysgol i weithredu newid o'r fath. Mewn ymgynghoriad
â'i phartneriaid allweddol, gan gynnwys llywodraeth leol,
mae Llywodraeth y Cynulliad wedi llunio Fframwaith sy'n nodi'r
weledigaeth ac amserlen weithredu i roi Effeithiolrwydd Ysgol
ar waith. Bydd y gweithdai - a fydd yn cynnwys mewnbwn gan gynrychiolwyr
o Lywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol ac ysgolion - yn archwilio'r
Fframwaith a'i nodau.
Nôl i'r Brig
Cadeirydd: Mr Robert Hopkins –Rheolwr Safonau ac
Effeithiolrwydd Ysgol
Cyfranwyr:
• Ymarferwyr uwchradd a chynradd
o glwstwr Ysgol Gyfun y Santes Fair.
• Swyddogion arweiniol ar gyfer
trosglwyddo o CA2 i CA3 gan Wasanaeth Ymgynghorol Caerdydd.
Bydd y gweithdy yn cyfeirio at:
• Rheoli a chydlynu trosglwyddo disgyblion o'r prif ysgolion
cynradd partner i'r ysgol gyfun clwstwr;
• Nodweddion Cynllun Trosglwyddo clwstwr effeithiol;
• Strategaethau ac ymagweddau llwyddiannus sy'n gysylltiedig
â darparu cwricwlwm sy'n cefnogi dilyniant a chynnydd mewn
dysgu wrth i ddisgyblion symud o CA2 i CA3;
• Y goblygiadau ar gyfer yr awdurdod addysg lleol.
Nôl i'r Brig
Cadeirydd: Debbie Topping: Pennaeth Gwasanaeth
Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig, Ysgolion Caerdydd a Dysgu Gydol
Oes
Cyfrawyr:
• Martin Dacey: Hyfforddwr
Cynradd (Gwasanaeth Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig)
• Becki Poole: Hyfforddwr Cynradd
(Gwasanaeth Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig)
• Athro prif ffrwd hyfforddedig
Bydd y gweithdy yn:
• Cynnal sesiwn ryngweithiol i gynadleddwyr i achub ar y
cyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau ar y cyd.
• Rhoi cyfleoedd i gynadleddwyr ystyried sut y gall strategaethau
wella dysgu i bawb.
• Galluogi i drafodaeth gael ei chynnal am yr heriau sy'n
wynebu disgyblion o leiafrifoedd ethnig a strategaethau a all
helpu i ddileu'r rhwystrau at gyrhaeddiad
Nôl i'r Brig
Astudiaeth achos sy'n edrych ar ddatblygiad creadigol
ar waith.
Cyfranwyr:
• Robert Cornelius,Ymgynghorwr
Gwella Ysgolion, Tîm Cefnogi'r Celfyddydau Creadigol (CAST),
Cyngor Caerdydd
• Julie Ashfield, Athro Ymgynghorol,
Tîm Cefnogi'r Celfyddydau Creadigol, Cyngor Caerdydd
Bydd y gweithdy yn:
• ystyried ystyr creadigrwydd;
• dangos sut y mae Caerdydd, drwy Wobr ArtsMark Caerdydd,
yn cydnabod ac yn dathlu arfer da yn yr ysgolion hynny lle y mae
rôl y celfyddydau yn uchel ar yr agenda ddysgu.
• dangos sut y mae CAST yn rhoi cymorth i athrawon, plant
ac artistiaid proffesiynol i gydweithio mewn partneriaeth gyfartal;
• cyflwyno astudiaeth achos o ddatblygiad creadigol ar waith.
.
Nôl i'r Brig
Mae'r gweithdy hwn yn edrych ar sut mae'r Awdurdod
Lleol yng Nghaerdydd wedi rhoi ei Strategaeth Dysgu ac Addysgu
ar waith ac yn rhoi cyfle i fyfyrio ar wersi a ddysgwyd.
Cyfranwyr:
• Edward Jones, , Uwch Ymgynghorydd,
Dysgu a Datblygu, Caerdydd
• Siân James, Ymgynghorydd
Datblygu Addysg, Dysgu, Caerdydd
• Karen Newby Jones, Ymgynghorwr
Gwella Ysgolion, Caerdydd
• Cyflwynwyr sy'n athrawon
Mae'r gweithdy yn cyfeirio at y canlynol:
• datblygu a gweithredu strategaeth ar draws yr AALl ar
gyfer Dysgu ac Addysgu, 2006-9 wedi'i chanolbwyntio ar feithrin
cymunedau dysgu cynhwysol,
• ymateb AALl wrth fodloni heriau Diwygio'r Cwricwlwm Cenedlaethol
yng Nghymru
• ystod o fentrau o fewn y Strategaeth Dysgu ac Addysgu
sy'n gosod dysgu ac addysgu wrth wraidd Gwella Ysgolion, gan gynnwys
rhaglen y Gynhadledd Teachers Talking about Learning a weithredwyd
mewn partneriaeth â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC),
Rhaglenni Caerdydd Building Learning Power a Phrifysgol yr Oes
Gyntaf.
• ystyried y ffordd ymlaen o ran datblygu athrawon a'r gweithlu
Nôl i'r Brig

Cadeirydd: Frank Callus : Rheolwr Strategol Rhaglenni (Addysg)
Rhaglen tîm Penaethiaid y Cymoedd
Cyfranwyr:
• Professor Dave Adamson, Cyfarwyddwr
y Rhaglen ar gyfer Adfywio Cymunedol ym Mhrifysgol Morgannwg
• Mr. Byron Jones, Pennaeth
Dysgu Oedolion a Dysgu Parhaus, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau
Gwent
• Dr Chris Chapman,Darlithydd
Arweinyddiaeth Addysgol a Gwella Ysgolion, Prifysgol Manceinion
Bydd y gweithdy’n cyflwyno trosolwg o'r
buddsoddiad mewn seilwaith Dysgu Oedolion a Dysgu Parhaus fel
rhan o raglen RISE gydag astudiaethau achos o raglenni i ymgysylltu
â phobl nad ydynt yn dysgu; cyflwyno'r model ar gyfer Cwricwlwm
ar gyfer Datblygu Cymunedol; ennyn trafodaeth ar y materion allweddol
er mwyn mynd i'r afael â chydlyniad cymdeithasol drwy ddysgu.
Nôl i'r Brig

Nod y gweithdy hwn yw trafod y gwaith o hyrwyddo
cynhwysiant gan ganolbwyntio ar ganlyniadau gwell i blant a phobl
ifanc.
Cadeirydd: Zac Davies, Rheolwr y Tîm Swyddogion Datblygu
yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyfranwyr:
• Huw Davies, Swyddog Datblygu
Cynhwysiant
• Heather Reid,Cydlynydd Cymorth
ar gyfer Cynhwysiant
• Pennaeth / ymarferwr
Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar y materion canlynol;
Hyrwyddo amgylchedd cynhwysol mewn ysgolion - astudiaeth achos.
'Mae pawb yn gyfrifol am gynhwysiant' - safbwynt o'r gwasanaeth
ymgynghorol Cefnogi cynhwysiant / canolbwyntio ar ganlyniadau
gwell - Canolfannau Cefnogi Dysgu a'u heffeithiolrwydd
Addysgu Amlsynnwyr
Rheoli Ymddygiad, Rheoli Dysgu - sut yr ydym yn datblygu ymagwedd
awdurdod cyfan tuag at ymddygiad
Nôl i'r Brig
Trafodaeth ac astudiaethau achos yn edrych ar
arweinwyr y dyfodol yn ysgolion heddiw
Cadeirydd: Aled Evans, Pennaeth Ysgolion, Cynhwysiant a Dysgu
Gydol Oes yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyfranwyr:
• John Rawlings, Swyddog Datblygu
Addysg E
• Dau Bennaeth
Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar y materion canlynol;
Arweinwyr yfory yn ysgolion heddiw (astudiaethau achos o ddwy
ysgol, cynradd ac uwchradd)
Camau a gymerwyd i sicrhau y caiff darpar arweinwyr eu nodi yn
gynnar
Rhaglenni llwybr cyflym a phennu mentoriaid i gefnogi darpar arweinwyr
a nodwyd
Cynllunio ar gyfer datblygu ac olynu arweinyddiaeth tymor hir
o fewn ysgolion ac AALl.
Hyfforddi aelodau allweddol o gyrff llywodraethu yn briodol i
fynd i'r afael â materion rheoli olyniant
Rhwydweithiau cydweithiol ysgolion o fewn yr AALl a'r consortiwm
Newid safbwyntiau 'profiad' i arweinwyr
Nôl i'r Brig

Astudiaethau achos a thrafodaeth ar effaith gwrando
ar ddysgwyr
Cadeirydd: Mark Campion, Dinas a Sir Abertawe
(ar hyn o bryd wedi'i secondio i Estyn fel Arolygydd Ychwanegol)
Cyfranwyr:
• Disgyblion ac athrawon o
ysgolion gydag arfer rhagorol
Bydd y gweithdy yn:
amlygu arfer rhagorol yng Nghymru, gan gynnwys astudiaethau achos
ar ysgolion cynradd ac uwchradd effeithiol;
nodi meysydd i'w datblygu ymhellach;
ennyn trafodaeth ar effaith gwrando ar ddysgwyr.
Nôl i'r Brig

Cadeirydd: Richard Parry, Cyfarwyddwr Addysg, Dinas
a Sir Abertawe, Prif Gyfarwyddwr Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth
Cymru
Cyfranwyr:
• aelodau Grwp y Cyfarwyddwyr
• aelodau grwp rheoli strategol
y Consortiwm
Bydd y gweithdy yn:
Trafod canlyniadau'r Prosiect Creu'r Cysylltiadau, prosiect yr
ymgymerwyd ag ef gyda chefnogaeth Cronfa Creu'r Cysylltiadau Llywodraeth
Cynulliad Cymru gan gynnwys:
amlinellu'r datblygiad o gydweithio rhwng y chwe awdurdod sy'n
ffurfio Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru gan ddisgrifio'r
model o gydweithio yn y sector cyhoeddus a ddatblygwyd er mwyn
meithrin gwaith y Consortiwm - gan ystyried buddiannau a risgiau'r
model
Nôl i'r Brig
Crëwyd prosiect RISE yn Ne Cymru ar ôl
i gwmni dur CORUS gau. Bydd y gweithdy hwn ar edrych ar ba effaith
y mae'r prosiect hwn wedi'i gael ar ddysgu mewn pum sir.
Cadeirydd: Dave Waddington: Cyfarwyddwr RISE (Rhwydwaith Dysgu'r
Pum Sir)
Cyfranwyr:
• Lyn Waddington: Cydlynydd
Ymchwil RISE
• Hyrwyddwr Dysgu RISE: I'W
GADARNHAU
Mae RISE yn rhwydwaith dysgu cymunedol sy'n unigryw o uchelgeisiol
a allai fod yn fodel ar gyfer Cymru gyfan ... mae RISE yn adlewyrchu
gweledigaeth Y Wlad sy’n Dysgu a nodwyd gan Lywodraeth Cynulliad
Cymru." (Martin Yarnit Associates, 2006: Creating a learning
culture in South East Wales; RISE an Evaluation t; 3)
Defnyddir RISE fel astudiaeth achos yn "Dysgu am Oes"
i archwilio'r nodau canlynol drwy weithdy cyfranogol
Nodau'r gweithdy fydd:
• Amlygu arfer gorau mewn rhwydweithiau dysgu cydweithredol.
• Dangos rôl rhwydweithiau cydweithredol wedi'u canoli
ar y dysgwr wrth gyflawni heriau'r 21ain ganrif
• Enghreifftio rôl dysgu gydol oes mewn adfywio.
Nôl i'r Brig

Egluro egwyddorion y Cyfnod Sylfaen ac amlygu'r
llwyddiannau, yr heriau a'r gwersi y gellir eu rhannu o'r cwricwlwm
newydd.
Cadeirydd: Annette Evans, Prif Swyddog y Cyfnod Sylfaen, Gwasanaethau
Addysg, Conwy
Cyfranwyr:
• Aelodau Grwp Ymgynghorwyr
Blynyddoedd Cynnar Cymru Gyfan
Bydd y gweithdy yn:
• Rhoi trosolwg ar egwyddorion cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen
ar gyfer plant 3-7 oed.
• Rhoi gwybodaeth ar y goblygiadau ar gyfer Awdurdodau Lleol,
Ysgolion a Lleoliadau wrth weithredu'r cwricwlwm newydd.
• Cyflwyno tystiolaeth ac astudiaethau achos o gynlluniau
peilot y Cyfnod Sylfaenol o ran llwyddiannau, heriau a'r cyfleoedd
y mae'r cwricwlwm newydd yn eu cynnig.
Nôl i'r Brig
Bydd y gweithdy yn edrych
ar gynnydd o ran dysgu celf a dylunio
Cadeirydd: Lorraine Buck, Ymgynghorwr Celf a Dylunio, ESIS
Cyfranwyr:
• Grwp o athrawon yn defnyddio
adnodd digidol mewn ystafelloedd dosbarth
Bydd y gweithdy yn cynnwys;
Cyflwyno cyfres o 6 CD ROM ar gyfer:
1. codi safonau mewn dysgu ac addysgu celf a dylunio
2. cefnogi athrawon gan eu bod yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion
ddatblygu sgiliau creu drwy dynnu lluniau, peintio, argraffu,
gludwaith, modelu 3D a thecstiliau.
3. gwella gwybodaeth bynciol a hyder athrawon heb arbenigedd.
4. datblygu dealltwriaeth ar y cyd o gynnydd sgiliau a phrosesau
ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd
5. rhoi cyd-destun ar gyfer trafodaeth ar addysgu a dysgu mewn
celf a dylunio rhwng athrawon CA2 a CA3
Nôl i'r Brig
Cadeirydd: Adrian Percival, Cyfarwyddwr Cenedlaethol
Gwella Ysgolion
Cyfrawyr:
• Mike Ion, Is-gydlynydd Cynllun
Gwella Ysgolion (Gogledd Orllewin)
Mae Cynlluniau Gwella Ysgolion yn chwarae rhan bwysig yn strategaeth
Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd ar gyfer ysgolion. Maent
ar frig y gwaith o weithredu polisi cenedlaethol. Mae eu gwaith
yn canolbwyntio ar wella ysgolion ac mae'n seiliedig ar ysgolion
yn hunanwerthuso. Cynlluniau Gwella Ysgolion yw ffynhonnell wybodaeth
ysgolion o ran yr hyn y maent yn ceisio'i gyflawni, pa mor dda
y maent yn ei wneud, a beth sydd angen ei wneud i ddatblygu'r
gwaith ymhellach. Pe gallai pob Cynllun Gwella Ysgol gael yr effaith
fwyaf posibl ar bob ysgol drwy roi heriau a chymorth hyfedr o
ansawdd uchel i arweinyddiaeth bob ysgol i sicrhau'r canlyniadau
gorau posibl i'r plant a'r bobl ifanc y maent yn eu gwasanaethau
byddai angen i ni ystyried y goblygiadau cysylltiedig mewn pedwar
maes allweddol:
1. Y cyd-destun newidiol y mae'r Cynllun Gwella Ysgolion yn gweithio
ynddo
2. Lle'r Cynllun Gwella Ysgolion yn y system
3. Yr heriau sy'n wynebu'r system ysgolion
4. Gwerthuso effaith y Cynllun Gwella Ysgolion
Bydd y seminar hwn yn defnyddio astudiaethau achos o arfer effeithiol,
canlyniadau'r adolygiad o'r rhaglen Cynllun Gwella Ysgolion gan
Uned Weithredu'r Prif Weinidog ac adroddiadau cenedlaethol Strategaethau
Cenedlaethol ar gyfer Cynlluniau Gwella Ysgolion uwchradd, cynradd
ac ysgolion arbennig i roi cefndir ar gyfer y drafodaeth.
Nôl i'r Brig
Cadeirydd:
Cyfranwyr:
• Anne Hamilton, Cyngor Chwaraeon
Cymru
• Judith Davies ESIS
Mae'n ddyletswydd ar glystyrau o ysgolion sy'n cynnwys ysgol gyfun
a'r prif ysgolion cynradd partner i gynhyrchu cynlluniau trosglwyddo
sy'n canolbwyntio ar bum prif faes. Y meysydd hyn yw:-
•Rheoli Dysgu
•Addysgeg
•Cwricwlwm
•Asesu a throsglwyddo gwybodaeth
•Cymdeithasol/bugeiliol
Bydd y gweithdy hwn yn amlinellu sut y mae Cyngor Chwaraeon Cymru
yn arwain y ffordd mewn partneriaeth â gwasanaeth ymgynghori
ESIS.
Amrywiaeth o waith 'rhanddeiliaid' gyda chlystyrau i gasglu eu
cynlluniau, a monitro a gwerthuso cynnydd. Mae'r ymagwedd hon
tuag at y gwaith o gynllunio a gweithredu wedi rhoi model o arfer
da sy'n cael ei fabwysiadu'n barhaus ym meysydd eraill y cwricwlwm
Nôl i'r Brig
|